Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 4 Chwefror 2019

Amser: 14. - 15.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5259


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Mick Antoniw AC (Cadeirydd)

Suzy Davies AC

Carwyn Jones AC

Llyr Gruffydd AC (yn lle Dai Lloyd AC)

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Sarah Sargent (Ail Glerc)

Ruth Hatton (Dirprwy Glerc)

Alys Thomas (Ymchwilydd)

Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol)

Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AC a Mandy Jones AC. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Dai Lloyd AC, a bu Llyr Gruffyd AC yn dirprwyo ar ei ran.

</AI1>

<AI2>

2       Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

</AI2>

<AI3>

2.1   SL(5)306 - Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig, Ffioedd a Ffioedd am Geisiadau Tybiedig) (Cymru) (Diwygio) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

</AI3>

<AI4>

3       Offerynnau a ystyriwyd yn flaenorol ar gyfer sifftio ac sydd bellach yn destun craffu o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3

</AI4>

<AI5>

3.1   SL(5)307 - Rheoliadau Da Byw (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

</AI5>

<AI6>

3.2   SL(5)308 - Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid ac Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

</AI6>

<AI7>

3.3   SL(5)309 - Rheoliadau Etholiadau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

</AI7>

<AI8>

3.4   SL(5)311 – Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth(Gofynion Ymgynghori) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau, gan nodi'r pwyntiau rhagoriaeth ar gyfer bob un ohonynt, ac roedd yn fodlon arnynt.

</AI8>

<AI9>

4       Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI9>

<AI10>

4.1   SL(5)304 - Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a bydd yn adrodd i'r Cynulliad yn unol â'r pwynt technegol a nodwyd.

</AI10>

<AI11>

4.2   SL(5)301 - Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2019

Nododd y Pwyllgor ymateb y Llywodraeth, ac roedd yn fodlon arno.

</AI11>

<AI12>

5       Offerynnau negyddol arfaethedig nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3B

</AI12>

<AI13>

5.1   pNeg(5)15 - Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

</AI13>

<AI14>

5.2   pNeg(5)16 - Rheoliadau Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon mai'r weithdrefn negyddol ddylai fod yn berthnasol iddynt.

</AI14>

<AI15>

6       Offerynnau Statudol sydd angen Cydsyniad: Brexit

</AI15>

<AI16>

6.1   SICM(5)18 - Rheoliadau Gwrteithiau a Deunydd Amoniwm Nitrad (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor femorandwm cydsyniad yr offeryn statudol a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad ynghylch pam na osodwyd datganiad ysgrifenedig ar gyfer y Rheoliadau. 

</AI16>

<AI17>

7       Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

</AI17>

<AI18>

7.1   WS-30C(5)78 - Rheoliadau Mewnforio a Masnachu Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad ar y materion a godwyd yn y sylwebaeth.

</AI18>

<AI19>

7.2   WS-30C(5)79 - Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid Dyfrol ac Iechyd Planhigion (Swyddogaethau Deddfwriaethol) (Ymadael â’r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.

</AI19>

<AI20>

7.3   WS-30C(5)80 - Rheoliadau Cemegion (Iechyd a Diogelwch) ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Cyfyngedig) (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth.

 

</AI20>

<AI21>

7.4   WS-30C(5)81 - Rheoliadau Cymorth Gwladwriaethol (Ymadael â’r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol i ofyn am eglurhad ar y materion a godwyd yn y sylwebaeth, gan gynnwys achos posibl o dorri'r Cytundeb Rhynglywodraethol. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i dynnu sylw Pwyllgor Craffu ar is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi a Phwyllgor Chyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi at y materion hyn.

 

</AI21>

<AI22>

7.5   WS-30C(5)82 - Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad a'r sylwebaeth. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad ar y materion a godwyd yn y sylwebaeth.

 

</AI22>

<AI23>

8       Papurau i’w nodi

</AI23>

<AI24>

8.1   Llythyr gan yr Arglwydd Boswell Cadeirydd Pwyllgor Undeb Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi: Cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng y DU a'r UE ar ôl ymadael â'r UE, a rôl y sefydliadau datganoledig

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan yr Arglwydd Boswell a chytunodd i ymateb iddo, gan dynnu ei sylw at adroddiad y Pwyllgor ar Lywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd ac adroddiad Syr Paul Silk ar sefydlu Cynhadledd Llefaryddion.

</AI24>

<AI25>

9       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Derbyniwyd y cynnig.

</AI25>

<AI26>

10    Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Pysgodfeydd y DU: Adroddiad Drafft

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad a chytunodd i ailystyried fersiwn ddiwygiedig yn y cyfarfod nesaf.

</AI26>

<AI27>

11    Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid Gwasanaeth)

Trafododd y Pwyllgor y nodyn cyngor cyfreithiol a chytunodd i adrodd ar y mater yn fuan.

</AI27>

<AI28>

12    Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018: Diweddariad

Nododd y Pwyllgor y diweddariad.

</AI28>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>